Hafan » Diogelwch Data

Diogelwch Data

Yma yn Transcribe This, rydym yn cymryd diogelwch eich data yn wirioneddol o ddifrif.

  • Transcribe This Ltd wedi’i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), rhif cofrestru ZA761990, yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA 2018).
  • Nid yw data sy'n cael ei storio ar ein system storio ffeiliau yn gadael yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), sy'n bwysig oherwydd bod yr ICO yn ystyried bod gan bob gwlad o fewn yr AEE fesurau diogelu data digonol ar waith. Mae ein gwefan yn cael ei chynnal ar weinyddion y DU fel bod y data yn aros yn y DU pan fyddwch yn uwchlwytho gwybodaeth bersonol i ni.
  • Mae ffurflen gysylltu ein gwefan yn amgryptio data wrth uwchlwytho a lawrlwytho ac mae’r data’n cael ei storio o fewn yr AEE.
  • Byddwn yn cadw eich trawsgrifiadau ar ein system ffeilio am 12 mis yn ddiofyn. Mae hyn oherwydd bod gennym gyfrifoldeb hefyd i sicrhau nad yw eich data'n cael ei golli. Yn amodol ar gais ysgrifenedig, gallwn drefnu i ddileu eich trawsgrifiadau o'n system cyn gynted ag y bydd taliad wedi'i glirio wedi dod i law.
  • Er mwyn sicrhau tawelwch meddwl ychwanegol, mae ein cyflogeion a’n gweithwyr llawrydd i gyd wedi llofnodi cytundeb cyfrinachedd gyda Transcribe This Ltd.