Trawsgrifio Sain, Cyfieithu ac Isdeitlo

Gwasanaethau Cymraeg a Saesneg, wedi’u darparu’n bersonol gan ein tîm cyfeillgar a chymwynasgar.

Mae trawsgrifio yn gelfyddyd, ac mae ein teipyddion dethol yn grefftwyr o fri. O acenion cyfoethog, rhanbarthol; grwpiau ffocws dadleugar, i Gymraeg ar fynyddoedd gwyntog... rydyn ni’n siŵr o fod wedi’i deipio! 

Rydyn ni’n arbenigo mewn trosi recordiadau bywyd go iawn yn drawsgrifiadau cywir a phroffesiynol. Yn dîm bach cyfeillgar sydd wedi’i leoli’n y DU, rydyn ni yma i'ch tywys drwy'r broses. Mae pob prosiect yn unigryw, a'n cenhadaeth yw sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau.

Trawsgrifio Sain

Does dim robotiaid fan hyn! Mae prifysgolion a sefydliadau llywodraethol yn ymddiried yn ein tîm trawsgrifio, sydd wedi’i leoli’n gyfan gwbl yn y DU, i sicrhau'r cyfrinachedd a'r cywirdeb gorau posibl. Gyda gwaith yn cael ei ddychwelyd yn gyflym a data'n cael ei drin yn ddiogel, cysylltwch â ni’n awr gyda manylion eich prosiect am ddyfynbris prosiect cyflym.

Isdeitlo

Gwasanaethau trawsgrifio fideo ar gyfer ffilm, teledu, cyfryngau cymdeithasol, gemau cyfrifiadurol... lle bynnag y mae angen capsiynau ysgrifenedig arnoch i gydfynd yn berffaith â'ch darnau o ffilm. O drawsgrifio a chapsiynu caeedig i gapsiynau agored 'wedi’u llosgi i mewn', cysylltwch â ni’n awr i drafod eich prosiect.

Cyfieithu Cymraeg

Gall ein cyfieithwyr cymwysedig a'n siaradwyr Cymraeg brodorol eich helpu gyda thrawsgrifio, capsiynu a chyfieithu proffesiynol – o'r Saesneg i'r Gymraeg neu o Gymraeg i Saesneg! Ar gyfer unrhyw fusnesau sydd angen cyfieithiad ysgrifenedig Saesneg i Gymraeg cywir, yn ogystal â thrawsgrifiadau, capsiynau a chyfieithu sain a fideo Cymraeg.

AMBELL EIRDA…

Mae gweithio gyda Transcribe This bob amser yn bleser. Maen nhw’n brydlon, yn hawdd cyfathrebu â nhw ac yn cynnig gwasanaeth cystadleuol.

Dr Hannah Pitt, Darlithydd, Prifysgol Caerdydd

Rwy'n fodlon iawn gyda gwasanaethau Transcribe This. Defnyddiais wasanaethau Transcribe This i drawsgrifio fy nghyfweliadau ansoddol ar gyfer fy Ph.D. gan ddefnyddio eu harddull fewnol awgrymedig. Daeth y trawsgrifiadau’n ôl ar amser ac o ansawdd uchel (heb unrhyw gamgymeriadau e.e. gramadeg, sillafu, ac ati). Yn ogystal, roedd gweithwyr Transcribe This yn hynod o gymwynasgar ac yn ymateb i unrhyw gwestiynau oedd gen i ac yn eglur iawn ynglŷn â’r broses. Afraid dweud, byddaf yn bendant yn defnyddio eu gwasanaethau eto.

Juliette Engelhart, Ymchwilydd Doethuriaethol, Prifysgol Caerfaddon

Rydw i wedi bod yn defnyddio Transcribe This ers blynyddoedd. Maen nhw’n rhedeg gwasanaeth proffesiynol, cywir o ansawdd uchel, gyda staff cyfeillgar ac amseroedd dychwelyd gwaith cyflym. Byddwn yn sicr yn argymell eu gwaith i unrhyw sy’n chwilio am wasanaeth trawsgrifio.

Lowri Jackson

Yn arbenigwyr mewn trawsgrifio, cyfieithu a chapsiynu – mae ein tîm cyfeillgar bob amser yn hapus i helpu.

Rydyn ni’n ymgymryd â phob agwedd ar waith trawsgrifio ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn trawsgrifio ymchwil.

Rydyn ni’n dîm cyfeillgar sy’n ymfalchïo mewn darparu gwaith o ansawdd uchel. Rydym i gyd wedi’n lleoli yn y DU. Rydym wedi cynllunio ein prosesau fel bod data yn aros o fewn yr AAE, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Diogelu Data 2018 a'r GDPR. Beth bynnag fo gofynion cymorth eich swyddfa, cysylltwch â ni i weld a allwn ni helpu.

Diogelwch eich data chi yw ein blaenoriaeth uchaf ni

  • Mae'r holl ffeiliau wedi'u hamgryptio'n awtomatig wrth uwchlwytho, lawrlwytho a storio ar ein gweinydd cwmwl diogel
  • Mae ein teipyddion i gyd yn defnyddio'r un gwasanaeth cwmwl tra diogel
  • Wedi’n hyswirio gan Markel
  • Mae cyrff cyfreithiol ac adrannau'r llywodraeth yn ymddiried ynom ni

Diwydiannau

  • Prifysgolion
  • Academyddion
  • Sector cyhoeddus
  • Business
  • Iechyd a meddygol
  • Cyfreithiol
  • Celfyddydau creadigol
  • Ffilm a theledu

Mathau

  • Grwpiau ffocws
  • Cyfarfodydd
  • Cyfweliadau
  • Ymchwil myfyrwyr
  • Gwrandawiadau disgyblaethol
  • Dictation
  • Ffilm a theledu
  • Cyfryngau cymdeithasol
  • Gemau cyfrifiadurol

Gwasanaethau

  • Teipyddion wedi’u lleoli’n gyfan gwbl yn y DU
  • Arbenigwyr dynol yn unig!
  • Dychwelyd gwaith o fewn 24 awr
  • Trawsgrifio gair am air
  • Capsiynau fideo
  • Isdeitlau wedi’u cyseinio â ffilm
  • Capsiynu caeedig
  • Capsiynu agored
  • Trawsgrifio Cymraeg
  • Cyfieithiu Cymraeg